Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can’t be switched off and they don’t store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can’t work properly.

Save preferences

New Chair appointed to the Communications Consumer Panel

03 April 2019

Communications Consumer Panel: making a difference for consumers

New Chair appointed to the Communications Consumer Panel

The Department for Digital, Media, Culture and Sport, has approved the appointment of Rick Hill MBE as Chair of the Communications Consumer Panel.

Rick starts the role this month, following the retirement of Jo Connell, OBE DL. Rick has been the Communications Consumer Panel’s Member for Northern Ireland since September 2014. He has previously been Chair of Northern Ireland Screen Commission, Chair of The General Consumer Council for Northern Ireland, Chair of Consumer Focus Post and member of the Consumer Focus UK Board, a member of the BBC Audience Council for Northern Ireland and BBC Broadcasting Council for Northern Ireland. He was made MBE for services to Broadcast Media in 2014. The Panel’s budget has also been increased by 50 per cent for this financial year. This will mean we will be able to expand on our consumer advocacy work across the sector.

Lord (Terry) Burns, Ofcom Chairman said: “The Panel’s role is critical in helping to hold Ofcom to account and ensure we maintain a strong focus on the consumer.

“I am delighted to welcome Rick as Chairman. He brings enormous experience and understanding of the needs and interests of consumers. We look forward to working with Rick as the Panel enters an exciting phase in its development as a leading consumer advocate.

“I am very grateful for Jo’s contribution over the past nine years. Under her leadership, the Panel and the Advisory Committee on Older and Disabled People have become a stronger voice for consumers, particularly those in more vulnerable circumstances.”

Rick Hill said: “I am delighted to be the incoming Chair at a time when Ofcom is increasing investment in the Panel so that we, in turn, can strengthen the consumer voice in our sectors and improve outcomes. I also want to pay tribute to Jo Connell for her leadership which has delivered this strengthened role”

Outgoing Chair, Jo Connell said: “I am extremely pleased to be passing the baton to Rick Hill. As an existing member of the Panel, Rick will provide seamless continuity ensuring our plan and ethos continue. He has a wealth of experience in consumer advocacy and is ideally suited for the strengthened consumer advocacy role the Panel now has.”

Margot James MP, Minister for Digital and Creative industries said: “We are determined to improve the consumer experience in telecoms, and a strong consumer voice is a crucial part of this effort. The appointment of someone with Rick's experience, alongside the 50% increase to the Panel's budget, will be instrumental in delivering this. We will continue to consider what additional measures Government can take to support the work of the Panel and UK consumers."

Further Information

The Panel is a statutory body, established under the Communications Act 2003. We are appointed by Ofcom with the approval of the Secretary of State, who have substantial knowledge and experience of consumer issues in the electronic communications sector and beyond. Highlighting the interests of those who may not always be heard by the industry (for example, consumers in vulnerable circumstances) is an important part of the Panel’s and ACOD’s role, as is working with Communications Providers, Ofcom and other policy and industry stakeholders.

The Panel’s remit covers the UK and, by statute, it has members who represent the interests of consumers in Scotland, Wales, Northern Ireland and England. They liaise with the key stakeholders in the Nations to understand the perspectives of consumers in all parts of the UK and input these perspectives to the Panel’s consideration of issues. These Members also attend meetings of the Ofcom Advisory Committee for each Nation and ensure a two-way communication of ideas. Cross-membership of the Panel with Ofcom’s Advisory Committee on Older and Disabled People (ACOD) was established in 2012 to improve effectiveness and efficiency.

Collaboration, constructive challenge and clarity of purpose remain central to our approach. We will continue to strive to ensure that the interests of consumers, citizens and micro businesses are protected and promoted, so that the opportunities offered by existing and emerging communications services are inclusive and fair, and so that the market succeeds in meeting the needs of us all.

The Panel pays particular attention to the needs of people whose circumstances make them permanently or temporarily more vulnerable; older people and people with disabilities; people in rural and urban areas; people on low incomes; and micro businesses, which face many of the same issues as individual consumers. Members, in their ACOD capacity, also provide advice to Ofcom on issues relating to older and disabled people including television, radio and other content on services regulated by Ofcom.

Rick Hill, MBE

Following degrees in Applied Maths and Church History, Rick worked as a parish minister for 17 years. He left church work in 2007 to develop a portfolio career. He is Owner/Director of Titanic Gap Ltd, a Media Consultancy. He is Deputy Chair of the Independent Press Standards Organisation.

Rick has previously been Chair of Northern Ireland Screen Commission, Chair of The General Consumer Council for Northern Ireland, Chair of Consumer Focus Post and member of the Consumer Focus UK Board, a member of the BBC Audience Council for Northern Ireland and BBC Broadcasting Council for Northern Ireland. He was made MBE for services to Broadcast Media in 2014. Rick has been the Communications Consumer Panel’s Member for Northern Ireland since September 2014.

Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau: gwneud gwahaniaeth i ddefnyddwyr

Cadeirydd newydd wedi ei benodi i’r Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau

Mae Adran Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU wedi cymeradwyo penodi Rick Hill MBE yn Gadeirydd y Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau.

Mae’r Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau yn gorff statudol sy'n sicrhau bod lleisiau dinasyddion a defnyddwyr yn cael eu cynrychioli wrth ddatblygu polisïau cyfathrebiadau. Mae gwasanaethau cyfathrebiadau'n rhan annatod o fywydau bob dydd defnyddwyr, dinasyddion a busnesau. Mae'r newid cyflym yn y sector hwn, ac arwyddocâd ei swyddogaeth ym mywydau pobl ac yn economi’r Deyrnas Unedig, yn golygu bod rhaid i safbwyntiau defnyddwyr a busnesau fod yn ganolog i'r ddadl.

Mae Rick yn dechrau yn y swydd y mis hwn, yn dilyn ymddeoliad Jo Connell, OBE DL. Mae Rick wedi bod yn Aelod o’r Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau ar ran Gogledd Iwerddon ers mis Medi 2014. Roedd yn arfer bod yn Gadeirydd Comisiwn Sgrin Gogledd Iwerddon, Cadeirydd Cyngor Defnyddwyr Cyffredinol Gogledd Iwerddon, Cadeirydd Llais Defnyddwyr Post ac yn aelod o Fwrdd Llais Defnyddwyr y DU, yn aelod o Gyngor Cynulleidfa'r BBC ar gyfer Gogledd Iwerddon ac yn aelod o Gyngor Darlledu'r BBC ar gyfer Gogledd Iwerddon. Cafodd MBE am wasanaethau i Gyfryngau Darlledu yn 2014. Hefyd, mae cyllideb y Panel wedi cynyddu 50 y cant ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Golyga hyn y bydd modd i’r Panel ehangu ei waith eiriolaeth defnyddwyr ar draws y sector.

Dywedodd yr Arglwydd (Terry) Burns, Cadeirydd Ofcom: “Mae gwaith y Panel yn hollbwysig er mwyn helpu i ddal Ofcom i gyfrif a gwneud yn siŵr ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar y defnyddwyr.

“Rwy'n falch iawn o groesawu Rick yn Gadeirydd. Mae ganddo lwyth o brofiad ac mae’n deall anghenion a buddiannau'r defnyddwyr. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Rick wrth i’r Panel ddechrau ar gyfnod cyffrous yn ei ddatblygiad fel eiriolwr defnyddwyr blaenllaw.

“Rwy'n ddiolchgar iawn am gyfraniad Jo dros y naw mlynedd diwethaf. O dan ei harweinyddiaeth, mae'r Panel a’r Pwyllgor Ymgynghori ar Bobl Hŷn a Phobl Anabl wedi dod yn lleisiau cryfach ar gyfer defnyddwyr, yn enwedig y rheini mewn amgylchiadau mwy bregus.”

Dywedodd Rick Hill: “Rwy’n falch iawn mai fi fydd y Cadeirydd newydd mewn cyfnod pan fydd Ofcom yn cynyddu buddsoddiad yn y Panel fel y gallwn ni, yn ein tro, gryfhau lleisiau defnyddwyr yn ein sectorau a gwella canlyniadau. Hefyd, hoffwn dalu teyrnged i Jo Connell am ei harweinyddiaeth, sydd wedi sicrhau’r sefyllfa gryfach hon”

Dywedodd Jo Connell, y cyn Gadeirydd, “Rwy'n falch iawn o gael trosglwyddo'r gwaith i Rick Hill. Ac yntau eisoes yn aelod o’r Panel, bydd Rick yn sicrhau parhad di-dor, gan wneud yn siŵr bod ein cynllun a’n hethos yn parhau. Mae ganddo lawer o brofiad ym maes eirioli defnyddwyr ac mae’n gweddu’n berffaith i'r rôl gryfach hon sydd gan y Panel ym maes eiriolaeth defnyddwyr erbyn hyn.”

Dywedodd Margot James AS, Gweinidog y Diwydiannau Creadigol a Digidol: “Rydym yn penderfynol o wella’r profiad i ddefnyddwyr telegyfatbrebiadau a mae klaus cryf I ddefnyddwyr yn hanfodol i’r ymdrech yma. Mae penodi rhywun gyda phrofiad Rick, ochr yn ochr â chynnydd o 50% i gyllideb y Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau yn eithriadol o bwysig wrth gyflawni hyn. Byddwn yn parhau i ystyried pa gamau ychwanegol gall Llywodraeth y DU gymryd i gefnogi gwaith y panel a defnyddwyr y DU.”

Rhagor o Wybodaeth

 
Mae’r Panel yn gorff statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003. Rydyn ni wedi ein penodi gan Ofcom a’n cymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol, sydd â llawer o wybodaeth a phrofiad yng nghyswllt materion sy’n ymwneud â defnyddwyr yn y sector cyfathrebiadau electronig a thu hwnt. Mae tynnu sylw at fuddiannau’r rheini nad ydynt o bosibl bob amser yn cael eu clywed gan y diwydiant (er enghraifft, defnyddwyr mewn sefyllfaoedd bregus) yn rhan bwysig o rôl y Panel a’r Pwyllgor Cynghori ar Bobl Hŷn a Phobl Anabl, yn yr un modd â gweithio gyda Darparwyr Cyfathrebiadau, Ofcom a rhanddeiliaid eraill ym maes polisi a diwydiant.

Mae cylch gwaith y Panel yn delio â'r DU ac, yn ôl statud, mae ganddo aelodau sy'n cynrychioli buddiannau defnyddwyr yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Maent yn cydweithio â rhanddeiliaid allweddol yn y Gwledydd er mwyn deall safbwyntiau defnyddwyr ym mhob rhan o’r DU, gan gyfleu’r safbwyntiau hyn pan fydd y Panel yn ystyried materion. Mae’r Aelodau hyn hefyd yn mynd i gyfarfodydd Pwyllgor Cynghori Ofcom ar gyfer pob Gwlad ac yn sicrhau bod syniadau'n cael eu cyfathrebu ddwy ffordd. Sefydlwyd bod aelodau'r Panel ac aelodau pwyllgor Cynghori Ofcom ar Bobl Hŷn a Phobl Anabl (ACOD) yn perthyn i’r naill gorff a’r llall yn 2012 i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd.

Mae cydweithio, herio adeiladol ac eglurder pwrpas yn dal yn ganolog i’n dull gweithredu. Byddwn yn parhau i geisio sicrhau bod buddiannau defnyddwyr, dinasyddion a microfusnesau’n cael eu diogelu a’u hyrwyddo, fel bod cyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan wasanaethau cyfathrebiadau heddiw ac yfory yn gynhwysol a theg, ac er mwyn i'r farchnad lwyddo i fodloni anghenion pob un ohonom.

Mae’r Panel yn rhoi sylw penodol i anghenion pobl mewn amgylchiadau sy’n eu gwneud yn fwy agored i niwed, yn barhaol neu dros dro; pobl hŷn a phobl ag anableddau; pobl mewn ardaloedd gwledig a threfol; pobl ar incwm isel; a microfusnesau, sy’n wynebu nifer o’r un problemau â defnyddwyr unigol. Mae Aelodau, yn rhinwedd eu swyddogaeth ar Bwyllgor Cynghori Ofcom ar Bobl Hŷn a Phobl Anabl, hefyd yn darparu cyngor i Ofcom ar faterion sy’n ymwneud â phobl hŷn a phobl anabl gan gynnwys teledu, radio a chynnwys arall ar wasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio gan Ofcom.

Rick Hill, MBE

Ar ôl cael graddau mewn Mathemateg Gymwysedig a Hanes yr Eglwys, bu Rick yn gweithio fel gweinidog plwyf am 17 o flynyddoedd. Gadawodd yr eglwys yn 2007 i ddatblygu gyrfa portffolio. Ef yw Perchennog/Cyfarwyddwr Titanic Gap Ltd, Cwmni Ymgynghori Cyfryngau. Ef yw Dirprwy Gadeirydd y Sefydliad Safonau yn y Wasg Annibynnol.

Roedd Rick yn arfer bod yn Gadeirydd Comisiwn Sgrin Gogledd Iwerddon, Cadeirydd Cyngor Defnyddwyr Cyffredinol Gogledd Iwerddon, Cadeirydd Llais Defnyddwyr Post ac yn aelod o Fwrdd Llais Defnyddwyr y DU, yn aelod o Gyngor Cynulleidfa'r BBC ar gyfer Gogledd Iwerddon ac yn aelod o Gyngor Darlledu'r BBC ar gyfer Gogledd Iwerddon. Cafodd MBE am wasanaethau i Gyfryngau Darlledu yn 2014. Mae Rick wedi bod yn Aelod o’r Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau ar gyfer Gogledd Iwerddon ers mis Medi 2014.

Categories:

If you have any difficulties accessing content on this page, please email us at contact@communicationsconsumerpanel.org.uk